Acts 19

Paul yn Effesus

1Tra roedd Apolos yn Corinth teithiodd Paul ar draws gwlad a chyrraedd Effesus. Yno daeth o hyd i grŵp o gredinwyr, 2a gofynnodd iddyn nhw, “Wnaethoch chi dderbyn yr Ysbryd Glân pan ddaethoch chi i gredu?”

“Na,” medden nhw, “dŷn ni ddim hyd yn oed wedi clywed fod yna'r fath beth ag Ysbryd Glân!”

3“Felly pa fedydd gawsoch chi?” meddai Paul.

“Bedydd Ioan,” medden nhw.

4Atebodd Paul, “Bedydd i ddangos eich bod am droi cefn ar bechod oedd bedydd Ioan. Dwedodd Ioan wrth y bobl hefyd am gredu yn yr un oedd i ddod ar ei ôl, sef yn Iesu.” 5Felly ar ôl clywed hyn dyma nhw'n cael eu bedyddio i ddangos eu bod nhw'n perthyn i'r Arglwydd Iesu. 6Wedyn dyma Paul yn rhoi ei ddwylo arnyn nhw, a daeth yr Ysbryd Glân arnyn nhw, a dyma nhw'n dechrau siarad ieithoedd eraill a phroffwydo. 7(Roedd yno ryw ddwsin o ddynion i gyd.)

8Am dri mis aeth Paul i'r synagog, a siarad yn gwbl agored yno, a cheisio perswadio'r bobl am deyrnasiad Duw. 9Ond dyma rhai ohonyn nhw'n troi'n ystyfnig – yn lle credu roedden nhw'n dechrau siarad yn erbyn Ffordd yr Arglwydd Iesu o flaen pawb. Felly dyma Paul yn eu gadael nhw, a mynd â'r credinwyr eraill gydag e. Roedden nhw'n cyfarfod yn narlithfa Tyranus i wrando ar Paul yn dysgu. 10Aeth hyn ymlaen am ddwy flynedd, nes bod pawb yn nhalaith Asia wedi clywed neges yr Arglwydd, yn Iddewon a phobl o genhedloedd eraill.

11Roedd Duw yn gwneud gwyrthiau anhygoel drwy Paul. 12Roedd cleifion yn cael eu hiacháu ag ysbrydion drwg yn mynd allan ohonyn nhw pan oedd cadachau a ffedogau oedd wedi ei gyffwrdd yn cael eu cymryd atyn nhw.

13Roedd grŵp o Iddewon hefyd yn mynd o gwmpas yn bwrw ysbrydion drwg allan o bobl, a dyma nhw'n ceisio defnyddio enw'r Arglwydd Iesu i ddelio gyda phobl oedd yng ngafael cythreuliaid. “Yn enw'r Iesu mae Paul yn pregethu amdano, dw i'n gorchymyn i ti ddod allan!” medden nhw. 14(Meibion Scefa, archoffeiriad Iddewig, oedden nhw – ac roedd saith ohonyn nhw). 15Dyma'r ysbryd drwg yn ateb, “Dw i'n nabod Iesu, ac yn gwybod am Paul, ond pwy dych chi?” 16A dyma'r dyn oedd a'r ysbryd drwg ynddo yn ymosod arnyn nhw a rhoi'r fath gweir iddyn nhw i gyd nes iddyn nhw redeg allan o'r tŷ yn noeth ac yn gwaedu.

17Clywodd pawb yn Effesus beth oedd wedi digwydd – yr Iddewon a phawb arall. Daeth ofn drostyn nhw i gyd, ac roedd enw'r Arglwydd Iesu yn cael ei barchu fwy fyth. 18Dyma lawer o'r bobl wnaeth gredu yn cyfaddef yn agored y pethau drwg roedden nhw wedi eu gwneud. 19Roedd nifer ohonyn nhw wedi bod yn medlan gyda dewiniaeth, a dyma nhw'n dod a'r llyfrau oedd ganddyn nhw ar y pwnc ac yn eu llosgi yn gyhoeddus. Roedd y llyfrau gafodd eu llosgi yn werth ffortiwn – dros 50,000 drachma
19:19 Groeg darn arian. Un drachma oedd cyflog diwrnod gweithiwr cyffredin.
yn ôl un amcangyfrif.
20Fel hyn roedd neges yr Arglwydd Iesu yn mynd ar led ac yn mynd yn fwy a mwy dylanwadol.

21Ar ôl hyn i gyd, dyma Paul yn penderfynu fod rhaid iddo fynd i Jerwsalem, a galw heibio Macedonia ac Achaia ar ei ffordd. “Wedyn ar ôl bod yn Jerwsalem,” meddai, “mae'n rhaid i mi ymweld â Rhufain.” 22Ond arhosodd yn Asia am ychydig mwy, ac anfon Timotheus ac Erastus o'i flaen i Macedonia.

Y reiat yn Effesus

23Tua'r adeg yna buodd yna dwrw mawr yn Effesus ynglŷn â Ffordd yr Arglwydd. 24Roedd gof arian o'r enw Demetrius yn rhedeg busnes gwneud modelau bach o deml y dduwies Artemis, ac yn cyflogi nifer o weithwyr. 25Daeth â'r gweithwyr i gyd at ei gilydd, a gwahodd pobl eraill oedd â busnesau tebyg. Dwedodd wrthyn nhw, “Ffrindiau, y busnes yma ydy'n bywoliaeth ni – mae'n gwneud arian da i ni. 26Ond, fel dych chi'n gwybod, mae'r dyn Paul yma wedi llwyddo i berswadio lot fawr o bobl bod y delwau dŷn ni'n eu gwneud ddim yn dduwiau o gwbl mewn gwirionedd. Mae wedi gwneud hyn, dim yn unig yma yn Effesus, ond bron drwy dalaith Asia i gyd. 27Mae peryg nid yn unig i'n busnes ni fynd i'r wal, ond hefyd i deml Artemis golli ei dylanwad, ac i'r dduwies fawr ei hun, sy'n cael ei haddoli ar hyd a lled Asia, golli ei statws!”

28Wrth glywed beth oedd gan Demetrius i'w ddweud, dyma'r dyrfa'n cynhyrfu'n lân a dechrau gweiddi: “Artemis yr Effesiaid am byth!” 29Cyn bo hir roedd y ddinas i gyd yn ferw gwyllt. Dyma nhw'n dal Gaius ac Aristarchus (dau o Macedonia oedd wedi bod yn teithio gyda Paul), a'u llusgo nhw i'r amffitheatr enfawr oedd yno. 30Roedd Paul eisiau mynd i mewn i wynebu'r dyrfa, ond wnaeth y disgyblion ddim gadael iddo. 31Dyma hyd yn oed rhai o swyddogion y dalaith roedd Paul yn ffrindiau â nhw yn anfon neges ato i bwyso arno i beidio mentro i mewn.

32Roedd y dyrfa oedd wedi casglu mewn anhrefn llwyr. Roedd rhai ohonyn nhw'n gweiddi un peth a rhai eraill yn gweiddi rhywbeth arall. Doedd gan y rhan fwyaf o'r bobl oedd yno ddim syniad beth oedd yn mynd ymlaen! 33Dyma rai o'r arweinwyr Iddewig yn gwthio dyn o'r enw Alecsander i'r blaen i esbonio fod gan y cwbl ddim byd i'w wneud â'r Iddewon. Cododd yntau ei law i geisio tawelu'r dyrfa, er mwyn iddo amddiffyn enw da'r Iddewon. 34Ond pan ddeallodd y dyrfa ei fod yn Iddew, dyma nhw'n dechrau gweiddi gyda'i gilydd eto, “Artemis yr Effesiaid am byth!” Aeth y siantio ymlaen yn ddi-stop am tua dwy awr.

35Clerc y ddinas lwyddodd i dawelu'r dyrfa yn y diwedd, ac meddai: “Bobl Effesus. Mae pawb drwy'r byd i gyd yn gwybod mai yn ein dinas ni mae teml y dduwies fawr Artemis, ac mai ni sy'n gwarchod y ddelw ohoni ddaeth i lawr o'r nefoedd. 36Does neb yn gallu gwadu hynny, felly mae'n bryd i chi dawelu, a pheidio gwneud dim byd byrbwyll. 37Dydy'r dynion ddaethoch chi â nhw yma ddim yn euog o ddwyn unrhyw beth o'r deml nac o gablu ein duwies ni. 38Felly, os oes gan Demetrius a'i ffrindiau gwyn yn erbyn rhywun, mae llysoedd i ddelio â'r mater, a barnwyr. Dyna'r lle i ddwyn cyhuddiad yn erbyn rhywun. 39Ac os oes unrhyw beth pellach, caiff ei setlo mewn cyfarfod cyhoeddus swyddogol. 40Mae peryg i ni gael ein cyhuddo o ddechrau reiat o achos beth sydd wedi digwydd yma heddiw. A petai hynny'n digwydd, beth fydden ni'n ei ddweud wrth yr awdurdodau? – Does dim esgus am y peth.” 41Ar ôl dweud hyn anfonodd bawb adre.

Copyright information for CYM